Grantiau ar Gael
Grantiau Hyrwyddo Dysgu
Mae NIACE Dysgu Cymru, mewn partneriaeth gydaELWa a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd, yn cynnig Cynllun Grant Hyrwyddo Dysgu.
Nod y Gronfa yw ysgogi rhaglen ddiddorol ac amrywiol o ddigwyddiadau ddysgu ledled Cymru.
Mae cronfeydd ar gael i gefnogi gweithgareddau hyrwyddo neu farchnata neu i gyflenwi sesiynau blasu byr. Targedir cronfeydd at sefydliadau sy’n gweithio gyda chymunedau nad ydynt yn cyrchu cyfleoedd dysgu ar hyn o bryd.
Mae nifer cyfyngedig o grantiau hyd at £1,000 ar gael. Os ydych yn llwyddiannus, telir eich grant mewn dau ran - 50% ymlaen llaw a 50% pan gwblheir adroddiad terfynol.
- Edrychwn am weithgareddau - sy’n wahanol, ac a all fod yn cael eu cynnal mewn mannau anarferol, yn medru cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac sydd â’r potensial i ennyn diddordeb y cyfyngau.
- Lle’n bosibl, dylai’ch gweithgaredd gysylltu gyda’r themâu allweddol a hyrwyddir dan yr ymgyrch gyfredol
- Rhoddir blaenoriaeth hefyd i brosiectau sy’n canolbwyntio ar fwy o ddysgwyr a dysgwyr gwahanol.
Ceisiadau ar gyfer Cymryd y Llyw bellach wedi cau
Mae ffurflen gais ar gyfer ymgyrch Grantiau Hyrwyddo Dysgu yr Wythnos Addysg Oedolion ar gael yma!




