
Hŷn a Hyderus

Mae gan gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu lawer o fanteision i bobl hŷn ac eto mae’r canran o bobl sy’n ddysgwyr yn gostwng yn gyflym gydag oedran. Mae’r prosiect hwn yn anelu i amlygu’r buddion i wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau, darparwyr dysg a phobl hŷn eu hunain mewn ymgais i gynyddu maint ac amrediad darpariaeth ac annog cyfranogiad.
Gwobr Dysgwr Hyn y Flwyddyn a noddwyd

Margaret Williams
Ifanc ei hysbryd Nhrelewis
Roedd Margaret Williams, 81 oed o Drelewis, eisiau cadw’i meddwl yn brysur ac yn effro wrth iddi heneiddio. Mae ei hagwedd gadarnhaol ar fywyd yn cael ei adlewyrchu yn ei gwaith fel ysgrifennydd y grŵp cymunedol ‘Stay Young at Heart’ sy’n darparu cymorth addysgol i bobl leol hŷn sy’n teimlo’n unig.
Trwy’r grŵp mae Maggie wedi bod yn cymryd rhan mewn nifer o gyrsiau ac wedi annog eraill i fynd yn ôl at ddysgu. Mae wedi cwblhau cyrsiau ar goginio, garddio, trefnu blodau a pheintio ar wydr.
Dywed Maggie: “Dydych chi byth yn rhy hen i ddysgu. Rwyf wir yn teimlo’r lles a’r effeithiau cadarnhaol ar ansawdd fy mywyd trwy barhau i ddysgu yn hwyrach yn fy mywyd. Er pan ddechreuodd y grŵp yn 1987 rydyn ni wedi tyfu o 11 i 35 o aelodau ac wedi cynnal sgyrsiau ar bensiynau, gofal ac atgyweirio, Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful a’r Gynghrair Iechyd, i enwi ychydig o bynciau. Rydyn ni nawr yn cwblhau mwy na 30 wythnos o ddysgu gyda thiwtor a 10 wythnos o sgyrsiau gan westeion arbenigol bob blwyddyn.”
Sherelle Jones, Cydlynydd Cymunedau’n gyntaf ar gyfer Bedlinog a Threlewis, a enwebodd Margaret ar gyfer y wobr. Dywed Sherelle: “Mae’r grŵp yn cynnig cymorth i unigolion sy’n byw mewn mannau unig ac yn teimlo’u bod nhw’n cael eu cau allan o weithgareddau cymdeithasol eraill. Mae Margaret yn rhoi ei hamser personol ei hun i drefnu a gweinyddu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau gwahanol, fel gweithdai addysgiadol, teithiau dyddiol, dyddiau iechyd a dandwn, a nosweithiau gyda siaradwyr gwadd.”



