Mae NIACE yn sefydliad an-llywodraethol. Yn gweithio dros addysg oedolion ehangach


Newyddion Diweddara

Addewid a Pherfformiad: Cyhoeddi Adolygiad Webb ar Addysg Bellach


Mae NIACE Dysgu Cymru yn croesawu’r adolygiad annibynnol o genadwri a diben addysg bellach (yn cynnwys dysgu oedolion yn y gymuned) yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Cynhaliwyd yr adolygiad gan banel annibynnol o dri arbenigydd.....

Manteision Ehangach Dysgu a Chyfarfod Cyffredinol NDC

 

Bydd NIACE Dysgu Cymru yn cynnal ei CCB ar 19 Medi yn y Pafiliwn yn Llandrindod. Yn ogystal â’r busnes CCB, bydd NDC yn rhoi sylw i Fanteision Ehangach Dysgu a bydd dau siaradwr cyweirnod ardderchog.

 

Bydd Ricardo Sabates, Uwch Swyddog Ymchwil a Chymrawd NIACE Sefydliad Addysg, Prifysgol Llundain yn cyflwyno papur ar ‘Gwerth Cyhoeddus Addysg Oedolion’.

 

Bydd yr Athro Gareth Rees, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, yn siarad am fanteision ehangach dysgu yn y cyd-destun Cymreig.

 

Bydd cyfle i drafod y materion ehangach yn dilyn yr areithiau cyweirnod. Os hoffech fynychu, neu i gael gwybodaeth bellach cysylltwch â wendy@niacedc.org.uk neu 02920 370900.

Rhwydwaith Llythrennedd Cyfryngau Cymru – Eisteddfod Genedlaethol

Iawn, felly rydych yn medru darllen ac ysgrifennu ond ydych chi’n llythrennog yn y cyfryngau? Mae technolegau darlledu a’r sôn am y newid i ddigidol wedi codi llythrennedd cyfryngau i ben yr agenda addysg...

Gwerthusiad o NIACE Dysgu Cymru


Cyhoeddwyd y gwerthusiad a gynhaliwyd gan Arad Consulting, ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, a medrir ei weld yma. Dengys yr adroddiad fod gweithgareddau a gwasanaethau NDC yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan ddarparwyr, dysgwyr a budd-ddeiliaid eraill. Er enghraifft mae 98% o ymatebwyr yn ystyried bod NDC yn effeithlon wrth hyrwyddo ymrwymiad ymysg ymarferwyr mewn trafodaeth bolisi yn gysylltiedig ag addysg oedolion a chymunedol, a dywedir fod Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch dra effeithiol.

Llythrennedd Cyfryngau yng Nghymru



Mai 2007 -
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf rhwydwaith llythrennedd cyfryngau Cymru ar 10 Mai yn swyddfa Ofcom Cymru. Mae gan y rhwydwaith aelodaeth amrywiol yn cynnwys cynrychiolwyr darparwyr dysg, addysg uwch, darlledwyr, Llywodraeth Cynulliad Cymru a grwpiau cymunedol a gwirfoddol.....

 

Grymuso dinasyddion gweithgar i gyfrannu at Gymru


Chwefror 2007 -
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu strategol ar gyfer y sector gwirfoddol, Grymuso dinasyddion gweithgar i gyfrannu at Gymru. Mae’r ddogfen ymgynghori yn cyflwyno gweledigaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gweithio gyda’r sector gwirfoddol ac yn dangos sut y bydd yn llywio amrediad o weithgareddau a gwasanaethau i fynd i’r afael â phroblemau dwfn yng Nghymru. Nod y strategaeth yw rhoi ffocws a chyfeiriad cliriach a symbyliad o’r newid i’r sector gwirfoddol.

Sgiliau, Demograffeg ac Economi Cymru


Rhagfyr 2006 - Mae NIACE Dysgu Cymru yn cynnal cynhadledd hanner diwrnod i ystyried adolygiad diweddar yr Arglwydd Leitch ar sgiliau. Cynhelir hyn ar 30 Ionawr 2007 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Mae’r siaradwyr sydd wedi cadarnhau hyd yma yn cynnwys Jane Davidson AC, Gweinidog Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Andrew Davies AC, Gweinidog Menter, Arloesi a Rhwydweithiau a Peter McGowan, Hyrwyddwr Sgiliau Galwedigaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Adolygiad Beecham o Wasanaethau Cyhoeddus


Rhagfyr 2006 - Sefydlodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yr adolygiad o wasanaethu cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2005, fel rhan o’r cynllun gweithredu ar gyfer ei strategaeth Creu’r Cysylltiadau ar gyfer gwella cyflenwi gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Cadeiriwyd yr adolygiad gan Syr Jeremy Beecham, gyda chymorth y Fonesig Gillian Morgan a Syr Adrian Webb. Cyhoeddwyd yr adroddiad Ar Draws Ffiniau ar 10 Gorffennaf 2006.

Grŵp Ymgynghori’r Gweinidog- Is-grŵp Dysgu Gydol Oes a Sgiliau


Rhagfyr 2006 - Penodwyd Rob Humphreys, Cyfarwyddydd NIACE Dysgu Cymru yn aelod o  is-grŵp Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Grŵp Ymgynghori Gweinidog Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd Rob: “Rwy’n falch iawn i fod yn aelod o Grŵp Ymgynghori’r Gweinidog. Bydd yn cynrychioli barn yr holl oedolion sy’n ddysgwyr, yn arbennig y rhai a gafodd eu hallgau yn flaenorol o gyfleoedd addysg a hyfforddiant. Byddaf yn hyrwyddo gwerth addysg oedolion yn ei holl ddulliau”.

Cyhoeddi Adolygiad o Addysg Bellach

Rhagfyr 2006 - Ar 22 Tachwedd cyhoeddodd Jane Davidson, Gweinidog Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, sefydliad Adolygiad Annibynnol o Gennad a Diben Addysg Bellach yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn gyfannol ac yn cynnwys dadansoddiad nid yn unig o Sefydliadau Addysg Bellach, ond gwerthusiad o rôl ehangach y sector yng nghyswllt datblygiadau ôl-16, Llwybrau Dysgu 14-19, addysg uwch, dysgu gweithle ac adolygiad Leitch.

Adolygiad Leitch ar Sgiliau – NIACE Dysgu Cymru yn ymuno â’r drafodaeth


Rhagfyr 2006 - Mae NIACE Dysgu Cymru yn croesawu adroddiad terfynol Adroddiad Leitch ar Sgiliau 'Prosperity for all in the Global Economy: World Class Skills', a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr. Mae’r adroddiad yn tanlinellu realaeth foel demograffeg newidiol y DU ac yn rhoi’r dystiolaeth ddifrifol fod ein sylfaen sgiliau yn cymharu’n wael gyda gwledydd eraill ac, yn hollbwysig, fod cystadleuwyr y DU yn gwella.

Y Wlad sy'n Dysgu: Gwireddu'r Weledigaeth


Hydrer 2006:
Lansiwyd Y Wlad sy'n Dysgu: Gwireddu'r Weledigaeth , cynllun strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer addysg, dysgu gydol oes a sgiliau yng Nghymru hyd 2010, gan Jane Davidson, Gweinidog Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

Pecyn Cymorth Gwerth Ychwanegol ar gyfer dysgu heb achrediad

Awst 2006: Mae’r Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau wedi comisiynu NIACE DC i ymchwilio a datblygu pecyn cymorth arfer gorau yn cynnwys technegau arweiniad a gwerthuso i’w defnyddio i fesur buddion gwerth ychwanegol ar gyfer dysgwyr dysgu sy’n disgyn y tu hwnt i gwmpas canlyniadau seiliedig ar gymhwyster neu gredyd ac na chafodd eu hachredu gan unrhyw sefydliad dysgu neu gorff dyfarniadau dysgu penodol. Manylion pellach ...

Cyllid Gweithredol Cydgyfeiriad 2007-2013



Rhaglenni Cydgyfeiriad 2007-2013: Fframweithiau Strategol
Papur Cyfarfod Grŵp Budd-ddeiliaid Allanol ôl-2006 yn amlinellu cynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno ‘Fframweithiau Strategol’ i gefnogi gweithrediad y rhaglenni Cydgyfeiriad yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.

 

Cliciwch ar y cysylltau islaw i weld yr ymatebion i’r ddwy ddogfen hon.

Adolygiad o Wasanaethau Lleol – Tu Hwnt i Ffiniau


Awst 2006:
Mae’r Adolygiad, a gadeiriwyd gan Syr Jeremy Beecham, yn archwilio’r holl wasanaethau yng Nghymru (wedi eu datganoli a heb eu datganoli) i weld sut y medrid gwneud eu cyflwyniad yn fwy ymatebol i anghenion dinasyddion yn y 21ain ganrif.

Adolygiad Graham yn cyhoeddi ei ganfyddiadau ar gyllid ar gyfer dysgwyr rhan-amser


Awst 2006:
Cyhoeddodd Adolygiad Graham ei Adroddiad Terfynol a chanfyddiadau ar 15 Mehefin 2006. Sefydlwyd y grŵp Adolygu ym mis Gorffennaf 2005 dan gadeiryddiaeth Dr Heather Graham, Prifysgol Agored Cymru, gyda chylch gorchwyl i adrodd ar gyllid teg a hyblyg ar gyfer astudiaeth addysg uwch ran-amser yng Nghymru.

Cyhoeddiad newydd gan FACE

Gorffennaf 2006: Mae gan FACE (‘The Forum for Access and Continuing Education’) gyhoeddiad newydd dan y teitl’ Entitled Towards a global understanding of lifelong learning: making a difference’. Mae’n cynnwys detholiad o bapurau o Gynhadledd FACE 2005 wedi’u trefnu yn dair prif adran.

Cylchlythyr RAMOD: Rhwydwaith addysgwyr a Mentoriaid Oedolion Du


Gorffennaf 2006:
Rhifyn haf Cylchlythyr Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol RAMOD

Canllawiau WEFO ar gyfer Cyflenwi Cyllid UE o Ionawr 2007


Gorffennaf 2006: Canllawiau WEFO i'ch helpu i lunio cynigion y dyfodol.

Bydd y canllawiau paratoadol hyn yn galluogi rhai sydd â diddordeb mewn gwneud cyfraniad i'r rhaglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd Rhanbarthol newydd i wneud ceisiadau cadarn pan gyhoeddir gwahoddiadau ffurfiol. Bydd y gwaith paratoi a argymhellir yma hefyd yn helpu i sicrhau ymrwymiad partneriaeth eang a lleihau dyblygu gwaith yn y rownd nesaf. Cyhoeddir cyfarwyddyd ffurfiol, llawn ar y materion a gwmpasir yn y canllawiau paratoadol hyn pan gytunwyd ar y Rhaglen Weithredol gyda'r Comisiwn.

Adroddiad QIF: Gwella Ansawdd a Safonau mewn Dysgu Oedolion yn y Gymuned


Mehefin 2006:
Mae adroddiad prosiect partneriaeth QIF gan NIACE DC, Addysg Gymunedol Cymru, fforwm, WEA, OCN Cymru, UALL Cymru: Gwella Ansawdd a Gwasanaethau mewn Dysgu Oedolion yn y gymuned yn awr ar gael.