
Aelodaeth NIACE
Mae dau brif gategori o aelodaeth NIACE: Corfforaethol (ar gyfer sefydliadau o bob math, yn cynnwys prifysgolion, colegau, rhwydweithiau coleg agored a sefydliadau ymchwil) ac Unigol (ar gyfer athrawon, gweithwyr cefnogaeth neu eraill yn ymwneud â neu â diddordeb yn yr agenda addysg oedolion). Mae gan NIACE 220 Aelod Unigol, 37 Aelod Oes er Anrhydedd a 520 Aelod.
Corfforaethol ar hyn o bryd, 56 ohonynt yn seiliedig yng Nghymru
Caiff pob Awdurdod Addysg Lleol yn Lloegr a Chymru eu trin fel aelodau corfforaethol llawn ond nid ydym yn codi ffi arnynt. Ystyriwn fod ein grant yn rheswm mwy na digonol dros roi hawl iddynt i’n holl wasanaethau.
Derbyn gwybodaeth ar bolisi ac ymarfer, ymgyrchoedd, cynadleddau a digwyddiadau yng Nghymru.
Pecyn Aelodaeth
Cyflwynwyd amrediad o fuddion newydd i’r pecyn aelodaeth ym Mehefin 2004. Fel aelod o NIACE byddwch yn derbyn ...
- Cynrychiolaeth yng nghyfarfodydd cyffredinol a chyfarfodydd aelodau NIACE
Medrwch fod â rhan ym mhroses lywodraethu'r Sefydliad a dylanwadu ar ein polisïau a’n harferion. Mae gan bob aelod hawl i fynychu’r cyfarfodydd hyn a phleidleisio. Mae cyfanswm o 3 mewn blwyddyn fel arfer. Dyrennir lleoedd i aelodau fel sy’n dilyn:
Aelodau corfforaethol llawn (hyd at 15 cynrychiolydd)
Aelodau corfforaethol ar gyfradd 50% (hyd at 10 cynrychiolydd)
Aelodau corfforaethol ar gyfradd 25% (hyd at 5 cynrychiolydd )
Aelodau unigol (un lle ar gyfer yr aelod penodol yn unig)
- Disgownt ar gyhoeddiadau
Mae gan aelodau hawl i ddisgownt o 20% ar holl gyhoeddiadau a thanysgrifiadau i gylchgronau NIACE. - Disgownt ar gynadleddau
Mae gan aelodau, yn cynnwys holl staff sefydliad sy’n aelod corfforaethol, hawl i ddisgownt sylweddol ar ddigwyddiadau cynhadledd cenedlaethol (gweler ffurflenni archebu i gael y manylion llawn). -
Tanysgrifiad di-dâl Adults Learning
Cyhoeddir cylchgrawn NIACE 10 gwaith y flwyddyn. Mae’r cylchgrawn yn llawn erthyglau ar faterion cyfoes, newyddion, gwybodaeth a’r datblygiadau polisi diweddaraf. Gall aelodau corfforaethol sy’n talu’r ffi lawn dderbyn hyd at 5 copi, a gall y rhai sy’n talu’r gyfradd 50% dderbyn hyd at 2 gopi. - Rhifyn di-dâl o Adult Learning Yearbook
Cyhoeddir y cyfeiriadur cyfeirio hwn yn flynyddol ac mae’n cynnwys dros 3,000 o gysylltiadau allweddol ym mhob maes addysg oedolion. Gall aelodau corfforaethol sy’n derbyn y ffi lawn dderbyn hyd at 5 copi, a gall y rhai sy’n talu’r gyfradd 50% dderbyn hyd at 2 copi. - Yr wybodaeth ddiweddaraf drwy e-gylchlythyr misol
Derbyniwch fanylion bob mis o gyhoeddiadau diweddaraf, cynadleddau a gwaith timau unigol NIACE. Caiff aelodau gyfle i fynegi diddordeb mewn meysydd neilltuol neu faterion penodol a medrant fod â rôl fwy gweithgar yn y Sefydliad drwy ymuno â gweithgorau a phaneli mewnol. -
Cysylltyn Gwefan Di-dâl. Mae gan aelodau corfforaethol yng Nghymru hefyd gysylltyn o safle NIACE Dysgu Cymru
-
Mynediad i lyfrgell arbenigol NIACE. Mae stoc y llyfrgell yn cynnwys dros 12,000 eitem am addysg oedolion. Mae staff gwybodaeth yn rhoi gwasanaeth ymholiad personol i aelodau dros y ffôn, e-bost neu lythyr.
- Mae aelodau’n manteisio o’r gefnogaeth a geir o fod yn rhan o sefydliad cenedlaethol mawr, a all atal sefydliadau llai neu unigolion rhag bod ar yr ymylon.
- Bydd Swyddog Aelodaeth ar gael fel eich cyswllt allweddol yn NIACE i ddelio gydag unrhyw gwestiynau, awgrymiadau neu geisiadau gan aelodau.
-
Felk aelod seiliedig yng Nghymru, yn ychwanegol at becyn buddion NIACE byddwch yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf gan NIACE Dysgu Cymru ar wedd hysbysiadau e-bost yn rhoi sylw i newyddion ar bolisi ac ymarfer yng Nghymru. Cewch eich hysbysu hefyd am gynadleddau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd yng Nghymru.
Cyfraddau Tanysgrifiad Aelodaeth 2005/2006 Cyfradd Llawn:
- Aelodaeth gorfforaethol = £475
- Aelodaeth unigol = £55
Gostyngiadau:
- 50% Cyfradd Corfforaethol = £240
(ar gyfer sefydliadau gyda throsiant blynyddol <= £500,000*) - 25% Cyfradd Corfforaethol = £120
(ar gyfer sefydliadau gyda throsiant blynyddol <= £250,000*)
(*)Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer Cyfraddau Aelodaeth Corfforaethol 50% neu 25% gyflwyno eu hadroddiad a chyfrifon blynyddol. Gall unrhyw sefydliad gyda throsiant uwch na’r terfynau hyn hefyd wneud cais am ostyngiad. Dylent gyflwyno rhesymau, a chaiff pob cais ei ystyried gan y Cyfarwyddydd.
Aelodau Tramor
- Ardal1 (Ewrop, Gogledd America, Awstralasia, Japan a Singapore) = £65
- Ardal 2 (gweddill y byd) = £55
Datganiad preifatrwydd: Dim ond i brosesu eich archeb/cais y defnyddir yr wybodaeth a roddwch i NIACE ac ni chaiff ei gwerthu i unrhyw drydydd parti. Polisi Preifatrwydd NIACE
Sut i ymaelodi
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymaelodi â NIACE cysyllter â Roger Marvin, Swyddog Aelodaeth NIACE ar 0116 2044200 neu e-bostiwch eich enw, cyfeiriad post a nodyn byr iawn am eich gwaith neu sefydliad at roger.marvin@niace.org.uk.
Medrwch hefyd gael gwybodaeth fanylach am NIACE Dysgu Cymru a'n gweithgareddau yng Nghymru drwy gysylltu â Wendy Ellaway, Rheolydd Swyddfa NIACE Dysgu Cymru. Ffôn: 029 20 370900 neu e-bost: wendy.ellaway@niacedc.org.uk.



