Mae NIACE yn sefydliad an-llywodraethol. Yn gweithio dros addysg oedolion ehangach


Grwp Ollbleidiol y Cynulliad ar Addysg Oedolion (GOCAO)

Dylanwadu ar bolisi cyhoeddus

Aiff y cysylltyn hwn â chi i dudalen gyfatebol NIACE UK

Mae NIACE Dysgu Cymru (NIACE DC) yn anelu i gynrychioli buddiannau oedolion sy’n dysgu yn lleol, genedlaethol a rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys cynnal perthynas waith dda gyda darparwyr addysg, darlledwyr, y wasg, llywodraeth a gwleidyddion. Mae rhan o waith adfocatiaeth NIACE Dysgu Cymru yn ymwneud ag ymatebion i ddogfennau a phapurau a gyhoeddwyd gan sefydliadau eraill, galwadau am dystiolaeth gan wahanol bwyllgorau, comisiynau ac ymholiadau.

Adroddiad terfynol Hyrwyddwr Sgiliau Galwedigaethol

Penodwyd Peter McGowan yn Hyrwyddwr Sgiliau Galwedigaethol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2005. Ei gylch gorchwyl oedd gwella ansawdd, defnydd a statws rhaglenni dysgu galwedigaethol, ac mae ei adroddiad terfynol bellach wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau lle caiff ei drafod ar 21 Mawrth 2007.  Darllenwch yr adroddiad.

Mae’r dilynol yn dangos ymatebion NIACE Dysgu Cymru i Ddogfennau Polisi pwysig ynghyd â phapurau pwysig eraill a ddatblygwyd gan NIACE DC:

Arolwg yn dangos cynnydd yn y nifer o Oedolion sy'n Dysgu


Dengys arolwg a gynhaliwyd gan NIACE Dysgu Cymru mewn cysylltiad â Llywodraeth Cynulliad Cymru fod y gyfran o oedolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu wedi cynyddu i 43%, cynnydd o un y cant ers 2003.....

Grymuso dinasyddion gweithgar i gyfrannu at Gymru

Ionawr 2007: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu strategol ar gyfer y sector gwirfoddol, Grymuso dinasyddion gweithgar i gyfrannu at Gymru. Mae’r ddogfen ymgynghori yn cyflwyno gweledigaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gweithio gyda’r sector gwirfoddol ac yn dangos sut y bydd yn llywio amrediad o weithgareddau a gwasanaethau i fynd i’r afael â phroblemau dwfn yng Nghymru. Nod y strategaeth yw rhoi ffocws a chyfeiriad cliriach a symbyliad o’r newid i’r sector gwirfoddol.

Sgiliau, Demograffeg ac Economi Cymru


Rhagfyr 2006
- Mae NIACE Dysgu Cymru yn cynnal cynhadledd hanner diwrnod i ystyried adolygiad diweddar yr Arglwydd Leitch ar sgiliau. Cynhelir hyn ar 30 Ionawr 2007 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Mae’r siaradwyr sydd wedi cadarnhau hyd yma yn cynnwys Jane Davidson AC, Gweinidog Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Andrew Davies AC, Gweinidog Menter, Arloesi a Rhwydweithiau a Peter McGowan, Hyrwyddwr Sgiliau Galwedigaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Grŵp Ymgynghori’r Gweinidog- Is-grŵp Dysgu Gydol Oes a Sgiliau


Rhagfyr 2006
- Grŵp Ymgynghori’r Gweinidog- Is-grŵp Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Penodwyd Rob Humphreys, Cyfarwyddydd NIACE Dysgu Cymru yn aelod o  is-grŵp Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Grŵp Ymgynghori Gweinidog Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd Rob: “Rwy’n falch iawn i fod yn aelod o Grŵp Ymgynghori’r Gweinidog. Bydd yn cynrychioli barn yr holl oedolion sy’n ddysgwyr, yn arbennig y rhai a gafodd eu hallgau yn flaenorol o gyfleoedd addysg a hyfforddiant. Byddaf yn hyrwyddo gwerth addysg oedolion yn ei holl ddulliau”.

Adolygiad Beecham o Wasanaethau Cyhoeddus


Rhagfyr 2006 - Sefydlodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yr adolygiad o wasanaethu cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2005, fel rhan o’r cynllun gweithredu ar gyfer ei strategaeth Creu’r Cysylltiadau ar gyfer gwella cyflenwi gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Cadeiriwyd yr adolygiad gan Syr Jeremy Beecham, gyda chymorth y Fonesig Gillian Morgan a Syr Adrian Webb. Cyhoeddwyd yr adroddiad Ar Draws Ffiniau ar 10 Gorffennaf 2006.

Cyhoeddi adolygiad o Addysg Bellach

Chwefror 2007   - Mae’r Adolygiad Annibynnol o Gennad a Diben Addysg Bellach yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Syr Adrian Webb, bellach yn casglu tystiolaeth. Bydd NIACE Dysgu Cymru yn cynnal digwyddiad ymgynghori ar 6 Mawrth yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod i fod yn sail i’w ymateb. I gael gwybodaeth bellach neu i archebu lle, cysylltwch â wendy@niacedc.org.uk

Adolygiad Leitch ar Sgiliau – NIACE Dysgu Cymru yn ymuno â’r drafodaeth


Rhagfyr 2006
- Mae NIACE Dysgu Cymru yn croesawu adroddiad terfynol Adroddiad Leitch ar Sgiliau 'Prosperity for all in the Global Economy: World Class Skills', a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr. Mae’r adroddiad yn tanlinellu realaeth foel demograffeg newidiol y DU ac yn rhoi’r dystiolaeth ddifrifol fod ein sylfaen sgiliau yn cymharu’n wael gyda gwledydd eraill ac, yn hollbwysig, fod cystadleuwyr y DU yn gwella.

Adroddiad Adolygiad ar y Celfyddydau yng Nghymru


Tachwedd 2006
- Cyhoeddwyd yr Adolygiad o'r Celfyddydau, a gomisiynwyd gan Alun Pugh AS, Gweinidog Diwylliant, Iaith Gymraeg a'r Celfyddydau, dan gadeiryddiaeth Elan Closs Stephens. Mae'r adolygiad yn pwysleisio pedair thema ar gyfer dyfodol y celfyddydau: Ymagwedd strategol newydd at  the ddatblygu'r celfyddydau, rhyddyd artistig, rhanbartholi a menter.

Cyllid Gweithredol Cydgyfeiriad 2007-2013

Awst 2006: Lansiwyd dogfen ymgynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar raglenni Cydgyfeiriad ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a gall rhan-ddeiliaid ledled Cymru ymateb erbyn 6 Hydref 2006. Bydd NIACE Dysgu Cymru yn cyflwyno ymateb ffurfiol.

Adolygiad o Wasanaethau Lleol – Tu Hwnt i Ffiniau

Awst 2006: Mae’r Adolygiad, a gadeiriwyd gan Syr Jeremy Beecham, yn archwilio’r holl wasanaethau yng Nghymru (wedi eu datganoli a heb eu datganoli) i weld sut y medrid gwneud eu cyflwyniad yn fwy ymatebol i anghenion dinasyddion yn y 21ain ganrif.

Ymgynghoriad Braenaru Daearyddol ELWa: Ail-drefnu gweithrediad dysgu?

Ym mis Rhagfyr 2004 cyhoeddodd ELWa chwe ardal o Gymru i arwain mewn adolygiad sylweddol manwl o’r ddarpariaeth ddysgu, er mwyn:

  • cynyddu dewis dysgwyr;
  • gwella cyraeddiadau dysgwyr; a
  • chynyddu ansawdd y dysgu.

Monitro Tlodi ac Eithrio Cymdeithasol


Mae’r astudiaeth hon yn defnyddio’r ffigurau diweddaraf sydd ar gael i fonitro tlodi ac eithrio cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n dangos lle mae Cymru arni, gan ddefnyddio nifer o wahanol ddangosyddion, yng nghyswltl gweddill Prydain. Er fod incwm isel yn amlwg yn ganolog, mae’r 32 dangosydd hefyd yn cynnwys addysg, gwaith, iechyd a llesiant, a mynediad i wasanaethau.

Cymru: Economi’n Ffynnu, Fframwaith Strategol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Datblygu Economaidd

Tachwedd 2005: Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae datblygu economaidd yng Nghymru wedi dilyn yr agenda a nodwyd yn ‘Cymru’n Ennill’. Mae uno Awdurdod Datblygu Cymru, Bwrdd Croeso Cymru ac ELWa gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn fuan wedi rhoi cyfle i ddiweddaru’r agenda datblygu economaidd yng Nghymru.

Mae ‘Cymru: Economi’n Ffynnu’ yn rhoi fframwaith strategol ar gyfer ‘cyflenwi twf economaidd cryf a chynaliadwy drwy ddarparu cyfleoedd i bawb’. Mae’n neilltuol o amserol yn nhermau’r adolygiad cyfredol o bolisi rhanbarthol yr UE o 2007 ymlaen.

Yr hyn sy’n arwyddocaol am y ddogfen hon yw bod ganddi ffocws cryf ar yr economi gwybodaeth a dysgu gwaith-seiliedig, fodd bynnag efallai dim digon o gydnabyddiaeth o bwysigrwydd dysgu anffurfiol sydd â rôl bwysig mewn camau’n ôl i addysg a hyfforddiant, ac felly waith.
Ymateb erbyn 28 Chwefror 2006

Grŵp Ollbleidiol y Cynulliad ar Addysg Oedolion (APAG)


Mae Grŵp Ollbleidiol y Cynulliad ar Addysg Oedolion (APAG) yn rhoi cyfle i rannu a thrafod materion cyfoes gydag Aelodau Cynulliad a chynrychiolwyr o amrediad o gefndiroedd proffesiynol. Cynhelir tri chyfarfod y flwyddyn fel arfer. Noddir y cyfarfodydd gan Aelod o Bwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes y Cynulliad, gyda’r pleidiau yn cymryd eu tro. Mae NIACE DC yn cydlynu’r cyfarfodydd ac yn trafod yr agenda gyda phartneriaid strategol allweddol a’r Aelod Cynulliad sy’n noddi’r cyfarfod.

Adolygiad Graham o Ffioedd Hyfforddiant Addysg Uwch Ran-amser a Chymorth i Fyfyrwyr


Tachwedd 2005:
Mae Adolygiad Graham wedi dechrau ar ei waith ac wedi cyhoeddi dogfen drafod ddechreuol a oedd i’w dychwelyd erbyn 11 Tachwedd. Medrir gweld y Ddogfen Ymgynghori ac ymateb NIACE DC yma.
Ymatebwyd 11 Tachwedd 2005.

Maniffesto Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer 2005-8


Hydref 2005:
Mae’r Maniffesto yn dynodi’r materion allweddol y bydd cynghorau lleol yn canolbwyntio arnynt hyd etholiadau 2008 a thu hwnt. Mae’n cynnwys cynlluniau uchelgeisiol a blaengar ar gyfer gwelliant parhaol cymunedau leol. Nid Maniffesto ar gyfer y Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn unig yw hyn ond ar gyfer llywodraeth leol i gyd a’n nod yw y bydd yn llywio a llunio’r drafodaeth o fewn ein haelodaeth a gyda’n holl bartneriaid.
Nid yw ymrwymiad polisi cyfredol y Maniffesto ar ‘Sicrhau rôl Llywodraeth Leol mewn Dysgu Gydol Oes’ yn sôn o gwbl am addysg oedolion a chymunedol!

Ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y Pŵer i Hyrwyddo neu Wella Lles, Cymdeithasol ac Amgylcheddol


Hydref 2005:
'Mae’r pŵer lles yn anelu i roi rhyddid i awdurdodau lleol i arloesi, ymateb yn gyflym lle mae angen hynny ac i weithio ar y cyd ag eraill i wella ansawdd bywyd a llesiant cyffredinol eu cymunedau'.
Yr hyn sy’n arwyddocaol i addysgwyr oedolion yw: diffyg cyfeiriad at addysg oedolion a chymunedol (drwy gydol y ddogfen) ac unrhyw ystyriaeth neu gydnabyddiaeth o botensial profedig addysg oedolion a chymunedol i effeithio ar iechyd a llesiant cymunedau.
Ymateb erbyn 16 Ionawr 2006

Ymgynghoriad ar Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang


Hydref 2005:
“Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hyrwyddo datblygiad sy’n ateb anghenion y presennol heb leihau gallu cenedlaethau’r dyfodol i ateb eu hanghenion eu hunain. Mae hyn yn golygu y byddwn yn rhoi ystyriaeth i faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ym mhopeth a wnawn. Byddwn yn integreiddio egwyddorion datblygu i’n gwaith a cheisio dylanwadu eraill ar eraill i wneud yr un fath”
Mae’r ddogfen yn gofyn am ymatebion penodol gan y sectorau Ieuenctid, Addysg Bellach, Addysg Oedolion a Chymunedol ac Addysg Uwch.
Ymateb erbyn 1 Hydref 2005.

Adolygiad Graham o Ffioedd Hyfforddiant Addysg Uwch Rhan-amser a Chymorth i Fyfyrwyr


Hydref 2005:
Mae Adroddiad Graham wedi dechrau ar ei waith ac wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori ddechreuol sydd i’w dychwelyd erbyn 11 Tachwedd. Medrir gweld y Ddogfen Ymgynghori yma.

Fframwaith Genedlaethol Gwasanaethau ar gyfer pobl hyn yng Nghymru - Ymateb NDC

Ymateb Niace Dysgu Cymru i'r ddogfen