
Dysgu Teulu a Rhyng-genhedlaeth
Mae’r Rhwydweithiau Addysg Teulu a Rhyng-genhedlaeth yn dod ynghyd ag amrediad o sefydliadau sydd yn: hyrwyddo a chefnogi dysg rhyng-genhedlaeth, cynnwys oedolion yn nysg plant a galluogi oedolion i fynd.
Defnyddiwch y botymau gwyrdd ar y chwith i fynd at tudalennau eraill ar addysg teulu.
Gwobr Dysgu Rhyng-Genhedlaeth a Theulu

MMADD
Addysg oedolion yn creu argraff ar y genhedlaeth nesaf
Gan sylweddoli eu bod nhw wedi cael magwraeth a chyfnod ysgol caled eu hunain, penderfynodd Angelika Paetel a Louise Crabtree o Billgwenlli, Casnewydd, y bydden nhw’n darparu cyfleoedd i’w plant nad oedden nhw’u hunain erioed wedi eu cael.
Yn benderfynol o wella’u sgiliau eu hunain, fe gwblhaodd y ddau gwrs Magu a Maethu dan nawdd Cysylltiadau Teuluol a chwrs Iaith a chwarae yn cael ei redeg gan Cychwyn Cadarn Casnewydd, ac ers hynny maen nhw wedi ennill Lefel 2 City & Guilds mewn TG, Dylunio Graffeg, a Chymhwyseddau Cyfrifiadurol ac ONC mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol.
Ar ol cael hwb rhyfeddol i’w hyder, mae’r grŵp wedi sefydlu Mamau yn Gwneud Gwahaniaeth (MMAD) sy’n darparu gweithgareddau cerddoriaeth, celf, drama a dawns i blant a phobl ifanc yn eu cymunedau, gan estyn allan i’r rhai mwyaf anodd eu trin a’u cyrraedd.
Dywed Louise: “Rwyf wastad wedi credu nad oeddwn i’n alluog iawn. Nawr rwyf wedi darganfod fy mod i’n eithaf deallus mewn gwirionedd, ac rwy’n fwy hyderus a hapus. Rwyf wrth fy modd yn dysgu ac yn teimlo fod gen i gymaint mwy o reolaeth.”
Enwebwyd MMAD ar gyfer gwobr gan Ceri Jones. Dywed Ceri: “Mae Angelika a Louise wedi ymgymryd â nifer o raglenni magu ac roeddwn i wrth fy modd gyda’r ffordd yr aethon nhw ati i ddefnyddio’r sgiliau newydd yr oedden nhw wedi eu dysgu er mwyn gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.”






