
Caiff pob eitem sy'n ymddangos ar y dudalen hon eu rhoi yn yr archif yn Newyddion Diweddaraf ar gyfer cyfeirio atynt yn y dyfodol
Rhwydwaith Llythrennedd Cyfryngau Cymru – Eisteddfod Genedlaethol
Iawn, felly rydych yn medru darllen ac ysgrifennu ond ydych chi’n llythrennog yn y cyfryngau? Mae technolegau darlledu a’r sôn am y newid i ddigidol wedi codi llythrennedd cyfryngau i... [mwy]
Arolwg yn dangos cynnydd yn y nifer o Oedolion sy'n Dysgu
Dengys arolwg a gynhaliwyd gan NIACE Dysgu Cymru mewn cysylltiad â Llywodraeth Cynulliad Cymru fod y gyfran o oedolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu wedi cynyddu i 43%, cynnydd o un y cant ers 2003...[mwy]
Bydd NIACE Dysgu Cymru yn cynnal digwyddiad ymgynghori ar ran yr Adran Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg ar 4 Medi 2007 yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod. Mae'r digwyddiad wedi ei anelu at wneuthurwyr polisi, ymarferwyr a budd-ddeiliaid addysg oedolion ac addysg yn y gymuned a'r nod yw casglu barn y sector i fod yn sail i adolygiad yr Adran. Bydd gwybodaeth bellach ar gael yn fuan o wefan NIACE Dysgu Cymru neu cysylltwch â cerys.furlong@niacedc.org.uk i gael gwybodaeth.



