Mae NIACE yn sefydliad an-llywodraethol. Yn gweithio dros addysg oedolion ehangach


NIACE Dysgu Cymru                                            Cyfarwyddiadau i NIACE Dysgu Cymru
3rd Floor
35 Cathedral Road
Cardiff
CF11 9HB
Wales

Email: enquiries@niacedc.org.uk
Tel: +44 (0)292 0370900
Fax: +44 (0)292 0370909
Website: www.niacedc.org.uk

NIACE                                                                    Cyfarwyddiadau i NIACE, Caerlyr/Leicester
21 De Montfort St
Leicester
LE1 7GE
United Kingdom

Email: enquiries@niace.org.uk

Tel: +44 (0)116 204 4200
+44 (0)116 204 4201
Fax: +44 (0) 116 285 4514
Website: www.niace.org.uk

Cyfarwyddiadau i NIACE Dysgu Cymru, Caerdydd

Ar Ffordd

O’r Dwyrain ar yr M4 – Gadael ar gyffordd 29 Caerdydd (A48M) a dilyn yr A48M am tua 4 milltir. Ewch dan y drosffordd, trwy’r goleuadau a chymryd y troad nesf i’r dde A4119 arwydd Llandaf/Gerddi Sophia, trowch i’r chwith yn y gyffordd T ac i’r chwith yn y goleuadau/cyffordd nesaf (tua ¼ milltir) i Heol yr Eglwys Gadeiriol/Cathedral Road. Mae NIACE Dysgu Cymru tua 2/3 milltir ar y dde i chi yn syth ar ôl y goleuadau traffig.

O’r Gorllewin ar yr M4 – Gadael ar gyffordd 33 a dilyn yr A4232 tuag at Ddociau Caerdydd, gadael A4232 yn Lecwyth arwydd Canol y Ddinas. Pasiwch Stadiwm Athletau Lecwyth a mynd drwy’r goleuadau cyntaf a thori i’r dde yn yr ail set i Stryd Wellington. Ewch ymlaen am tua ¼ milltir a throi i’r chwith yn yr ail set o oleuadau i Heol yr Eglwys Gadeiriol/Cathedral Road. Mae NIACE Dysgu Cymru tua 200 llath ar y chwith yn union cyn y goleuadau. Maes parcio yng Ngerddi Sophia (i’r dde wrth y goleuadau traffig).

O’r Gogledd a’r yr A470 – Yng Nghyfnewidfa Gabalfa dilynwch y ffordd i’r gorllewin arwydd A48 Port Talbot a chanol y ddinas. Ewch drwy’r goleuadau a chymryd y troad nesaf A4119 arwydd Llandaf/Gerddi Sophia, troi i’r chwith yn y gyffordd T ac i’r chwith yn y goleuadau/cyffordd nesaf (tua ¼ milltir) i Heol yr Eglwys Gadeiriol/Cathedral Road. Mae NIACE Dysgu Cymru 2/3 milltir ar y llaw dde i chi yn syth ar ôl y goleuadau traffig. Maes parcio yng Ngerddi Sophia (i’r chwith wrth y goleuadau traffig).

A r Drên

Mae NIACE Dysgu Cymru tua 1 filltir o Orsaf Ganolog Caerdydd. 5 munud mewn tacsi neu 15 munud ar droed.

Map Lleoliad

Medrir lawrlwytho’r map lleoliad drwy ddilyn y cysylltyn islaw. Mae’r cylch coch mawr yn dangos lleoliad NIACE Dysgu Cymru. Defnyddiwch y nodwedd chwyddo i weld golwg ehangach o’r ardal. I argraffu y map, defnyddiwhc yr icon ‘argraffu rhwydd’ sy’n ymddangos ar ochr chwith y map.

Lawrlwytho Map Lleoliad ar gyfer NIACE Dysgu Cymru (cysylltyn allanol)

Dim ond oherwydd yr hysbysebion a ymddengys ar y tudalennau map y medrir cynnig y gwasanaeth hwn yn DDI-DÃl. Nid yw NIACE yn ardystio unrhyw gwmni neu wasanaeth sy’n ymddangos ar y dudalen.

Adborth Gwefan

Ein nod yw galluogi defnyddiwr i ganfod gwybodaeth berthnasol iddynt yn rhwydd ac yn gyflym. Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o wefannau, mae’n endid sy’n tyfu gyda’i gynnwys yn cael ei ddiweddaru’n barhaol. Hoffem wybod os cawsoch unrhyw anhawster yn dod o hyd i wybodaeth, un ai oherwydd nad oedd ar y safle o gwbl neu oherwydd ei bod yn anodd dod o hyd iddi. Hoffem wybod hefyd os oes gennych unrhyw syniadau am sut y medrid datblygu’r safle er mwyn rhoi gwell gwasanaeth i’r rhai sy’n ymwneud ag addysg oedolion yn y DG.

Anfonwch eich sylwadau drwy e-bost at webmaster@niace.org.uk os gwelwch yn dda.

Cyfarwyddiadau i NIACE, Caerlyr/Leicester

Mae gan NIACE dair swyddfa yng Nghaerlyr: Mae’r brif swyddfa yn Renaissance House, 20 Princess Road West ond mae gennym swyddfeydd eraill yn 21 De Montfort Street ac Enkalon House, Regent Road. Os ydych yn dod i NIACE am gyfweliad swydd, yna bydd angen i chi ddilyn y cyfarwyddiadau i Enkalon House.

Ar Drên

Dim ond un orsaf drenau sy’n gwasanaethau dinas Caerlyr. Pan gyrhaeddwch Gaerlyr, dilynwch y cyfarwyddiadau islaw i’r swyddfa berthnasol. Maent oll o fewn pellter cerdded.

Renaissance House, 20 Princess Road West

Croeswch London Road yn defnyddio’r croesiad cerddwyr sy’n syth y tu allan i’r orsaf drenau. Ar ôl cyrraedd yr ochr arall, trowch i’r chwith. Croeswch dros South Albion Street a pharhau i fyny’r bryn. Trowch i’r dde pan gyrhaeddwch New Walk a cherdded tuag at yr amgueddfa. Yn syth ar ôl yr amgueddfa, mae ardal laswelltog o’r enw Museum Square. Cymerwch lwybr lletraws ar draws y grîn (gan fynd o amgylch y goeden fawr yn y canol) ac aiff hyn â chi i Princess Road West. Mae NIACE 30 llath ar ochr dde Renaissance House.

21 De Montfort Street

Ar ôl gadael yr orsaf drenau, trowch i’r chwith a cherdded i fyny London Road nes dod at groesiad pedestrian (sydd y tu allan i fwyty/bar). Croeswch i ochr arall London Road a pharhau i gerdded i fyny’r bryn. De Montfort Street yw’r ffordd gyntaf y deuwch ati ar yr ochr dde. Mae swyddfa NIACE tua 100 llathen ar yr ochr dde, yn union gyferbyn â gwesty Belmont House.

Enkalon House, (Llawr 4), Regent Road

Dilynwch y cyfararwyddiadau ar gyfer 21 Montfort Street, ond yna ewch syth ymlaen heibio NIACE a throi i’r dde yn y goleuadau traffig nesaf i Regent Road.

Mae Enkalon House tua 100 llath ar yr ochr dde. Mae NIACE ar y 4ydd Llawr.

Ar Ffordd

Mae NIACE yn annog pob ymwelydd i deithio gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, os na fedrwch osgoi teithio mewn car, dilynwch y cyfarwyddiadau islaw. Gweler yr adran ar parcio ceir.

O’r M1: Gadewch yng Nghyffordd 21 a mynd yng nghyfeiriad Caerlyr/Leicester. Yn y gylchfan gyntaf trowch i’r dde ac yna yn yr ail gylchfan trowch i’r chwith i’r A563 (de a dwyrain), mae canolfan siopa Fosse Park ar y chwith.

(*)Dilynwch arwyddion ar gyfer Wigston ac Oadby. Mae cylchfan fawr ar ddiwedd yr A563, trowch i’r chwith i’r A6 (cae rasio ar y dde i chi). Cariwch yn syth ymlaen, gan ddilyn arwyddion am ganol y ddinas, gorsaf drenau, Prifysgol. Ewch syth ymlaen yn y gylchfan fach (mae Victoria Park ar y chwith i chi). Wrth y set nesaf o oleuadau traffig gwelwch glwydi haearn mawr Victoria Park. Trowch i’r chwith yma i fynd i Granville Road. Mae maes parcio cyhoeddus talu a dangos ar y llaw chwith gyda dwy fynedfa iddo: mae un yn union heibio’r croesiad cerddwyr a’r llall ymhellach i lawr y ffordd lle mae’n gwyro i’r dde.

Sut mae cyrraedd NIACE, ar droed, o’r maes parcio?

O’r M69: daw’r M69 i ben yn yr un gylchfan â Chyffordd 21 yr M1. Ewch yn syth ymlaen yn y gylchfan hon, a throi i’r dde yn yr ail gylchfan. Yn y trydydd gylchfan trowch i’r chwith i’r A564 (de a dwyrain), mae canolfan siopa Fosse Park ar y chwith i chi. Dilynwch y cyfarwyddiadau fel a roddir uchod (*).

Mae’r cyfeiriadau uchod yn eich arwain i’r maes parcio mwyaf addas ar gyfer De Montfort Street ac Enkalon House. Pan fyddwch yn gadael y maes parcio ar droed dilynwch y cyfarwyddiadau ar y map gyferbyn.

O Nottingham (heb fynd ar yr M1): Ewch allan o Nottingham ar yr A406 ac yn syth i’r A46. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer canol dinas Caerlyr. Daw hyn â chi i Melton Road yn arwain i Belgrave Road. Ewch yn syth ymlaen yn y gychfan fawr a’r drosffordd gyntaf. Yn yr ail gylchfan a thorsffordd trowch i’r chwith i St Matthew’s Way. Ewch yn syth ymlaen i set o oleuadau traffig a chylchfan arall. Cymerwch y drydydd allfan i St George’s Way (mae parc adwerthu St George ar y chwith i chi). Dilynwch yr arwyddion am yr orsaf drenau. Dilynwch y ffordd gan gadw yn y lon ganol, gan fynd yn syth ymlaen yn y ddwy set nesaf o oleuadau traffig. Wrth yr ail set o oleuadau traffig, mae’r orsaf heddlu ar y dde i chi a’r ffordd yn gwyro i’r chwith. Ewch yn eich blaen drwy’r ddwy set nesaf o oleuadau traffig heibio’r orsaf drenau ar y chwith i chi. Mae croesiad cerddwyr yn union heibio’r orsaf, trowch i’r dde yn syth ar ôl hyn i De Montfort Street.

I gyrraedd y maes parcio yn Victoria Park, ewch ymlaen i lawr De Montfort Street nes y cyrhaeddwch y gyffordd gyda Regent Road. Trowch i’r chwith wrth y goleuadau traffig nesaf hyn a dilyn y ffordd i’r top. Fel mae’r ffordd yn dechrau troi i’r chwith byddwch yn gweld clwydi mynedfa’r maes parcio yn syth o’ch blaen (rhybudd: mae’r clwydi mawr ar yr ochr dde ar gyfer De Montfort Hall ac nid ar gyfer y maes parcio).

Sut mae cyrraedd NIACE, ar droed, o’r maes parcio?

O’r A6 De (Market Harborough): Dilynwch yr A6 i ganol y ddinas, yna dilyn arwyddion ar gyfer Oadby. Ewch yn syth ymlaen yn y gylchfan fawr (cae rasio ar y chwith i chi). Cariwch yn syth ymlaen yn dilyn arwyddion am yr orsaf drenau a’r Brifysgol. Ewch yn syth yn eich blaen yn y gylchfan fach (Victoria Park ar y chwith i chi). Yn y set nesaf o oleuadau traffig gwelwch glwydi haearn mawr Victoria Park. Trowch i’r chwith yma i Granville Road. Mae maes parcio cyhoeddus talu a dangos ar y llaw chwith i chi gyda dwy fynedfa iddo: un yn syth heibio’r croesiad cerddwyr, a’r llall ymhellach i lawr y ffordd lle mae’n gwyro i’r dde.

Sut mae cyrraedd NIACE, ar droed, o’r maes parcio?

Lleoedd parcio:

Dynodwyd nifer gyfyngedig o leoedd ar gyfer ymwelwyr swyddogol ym mhob un o’r tri safle*. I archebu lle parcio ymwelydd rhaid i chi hysbysu’r person cyswllt cyn eich cyfarfod. Caiff arwydd cadw ei ddodi o fewn y lle parcio a ddyrannwyd i chi pan gyrhaeddwch.

Ar gyfer ymwelwyr arhosiad byr i Renaissance House mae hefyd nifer o leoedd parcio ar y stryd. Mae’r rhain y tu allan i flaen Renaissance House a chodir y tâl dilynol am barcio yma: 1 awr = 70c, 2 awr = £1.30, 3 awrs = £1.70. Rhaid prynu tocyn parcio ar ôl cyrraedd (mae peiriant yn agos at y lleoedd) a’i arddangos yn ffenestr flaen y car. Gall methiant i brynu tocyn neu aros yn rhy hir arwain at ddirwy o £30.

*Ni all NIACE warantu y bydd lle ar gael, fodd bynnag gwnawn ein gorau i ddarparu hynny.

Os na fedrwn gadw lle i chi yna fe’ch cynghorir i ddefnyddio’r maes parcio cyhoeddus yn Victoria Park. Mae cyfarwyddiadau i faes parcio Victoria Park o bob cyfeiriad yn y cyfarwyddiadau uchod.

Sut mae cyrraedd NIACE, ar droed, o’r Maes Parcio Talu a Dangos?

I gyrraedd Renaissance House, 20 Princess Road West o’r maes parcio Talu a Dangos mae angen i chi groesi Granville Road, gan ddefnyddio’r croesiad cerddwyr, a cherdded i lawr ardal gerddwyr New Walk. Parhewch ar draws New Walk, gan groesi dwy ffordd nes cyrraedd yr amgueddfa (byddwch yn pasio swyddfa NIACE arall ar y llaw dde i chi ond anwybyddwch hon). Yn syth ar ôl yr amgueddfa mae ardal laswelltog Museum Square. Cymerwch y llwybr lletraws ar draws y grîn (gan fynd o amgylch y goeden fawr yn y canol) ac aiff hyn â chi i Princess Road West. Mae NIACE 30 llath ar yr ochr dde yn Renaissance House.

I gyrraedd 21 De Montfort Street o’r maes parcio Talu a Dangos mae angen i chi groesi Granville Road a cherdded i lawr ardal gerddwyr New Walk. Ewch ymlaen i lawr New Walk nes cyrraedd NIACE ar y llaw dde i chi (gan groesi dwy ffordd ar eich ffordd – mae NIACE ar gornel yr ail ffordd).

I gyrraedd Enkalon House o’r maes parcio Talu a Dangos mae angen i chi adael y maes parcio yn defnyddio prif fynedfa’r maes parcio. Daw hyn â chi i Regent Road. Parhewch i lawr Regent Road ac mae Enkalon House ar y llaw dde i chi (ar ôl i chi groesi University Road a De Montfort Street).

Mapiau Lleoliad

Mapiau i’w Hargraffu

Lawrlwytho Map Lliw Llawn
(ffeil PDF)

Lawrlwytho Map Du a Gwyn
(ffeil PDF)

Mapiau Rhyngweithiol

Medrir lawrlwytho’r mapiau lleoliad rhyngweithiol hyn drwy ddilyn y cysylltau perthnasol islaw. Medrwch ddefnyddio’r nodwedd chwyddo i weld y map ar wahanol feintiau. Mae’r cylch coch mawr yn dangos lleoliad NIACE a dangosir yr orsaf drenau mewn du. (I argraffu y map, defnyddiwch yr icon ‘argraffu rhwydd’ ar ochr dde y map).

Lawrlwytho Map Lleoliad ar gyfer NIACE,
Renaissance House, 20 Princess Road West, Leicester

(cysylltyn allanol)

Lawrlwytho Map Lleoliad ar gyfer NIACE,
21 De Montfort Street, Leicester

(cysylltyn allanol

Lawrlwytho Map Lleoliad ar gyfer NIACE,
Enkalon House, Regent Road, Leicester

(cysylltyn allanol)

Dim ond oherwydd yr hysbysebion a ymddengys ar y tudalennau map y medrir y cynnig y gwasanaeth hwn yn DDI-DÃL.. Nid yw NIACE yn ardystio unrhyw gwmni neu wasanaeth sy’n ymddangos ar y dudalen.