
Siop Lyfrau NIACE
| Teitlau Newydd | Cylchgronau | |
| Begin Browsing... yn ôl teitl yn ôl Pwnc yn ôl Awdur yn ôl Math |
|
Dysgu Oedolion |
| Canllawiau prynu ar-lein |
Mae gan Aelodau NIACE yn awr hawl i ddisgownt o 20% ar bob cyhoeddiad.
Lawrlwythwch y catalog ar ffurf PDF - [Saeneg / 2.1MB]
NIACE yw prif gyhoeddwr Prydain ddeunydd ar addysg oedolion. Mae’r catalog ar-lein hwn yn rhoi manylion yr holl deitlau sydd mewn print ar hyn o bryd yn ogystal â rhestru Teitlau Newydd and Teitlau ar y Gweill.
Pori
Medrwch bori’r catalog ar-lein mewn un o bedair ffordd:
A-Y, by Pwnc, by Awdur and by Math
Cylchgronau
- The Adult Learning Yearbook
Cyfeiriadur blynyddol o asiantaethau’n ymwneud ag addysg oedolion ym Mhrydain a thramor. - Adults Learning
Cylchgrawn rheolaidd (10 rhifyn y flwyddyn) ar gyfer rhai’n gweithio mewn addysg oedolion; - Concept
Cyhoeddir Concept deirgwaith y flwyddyn a’i olygu gan Mae Shaw o Brifysgol Caeredin. Mae’r rhan fwyaf o’r erthyglau gan ymarferwyr, ynghyd ag academyddion a sylwebwyr gwleidyddol. - Studies in the Education of Adults
Cyhoeddir ddwywaith y flwyddyn mewn cysylltiad gyda’r Gynhadledd Sefydlog ar gyfer Addysgu ac Ymchwil mewn Addysg Uwch (SCUTREA); Cymdeithas Addysg Barhaol Prifysgolion a’r Gymdeithas Ewropeaidd dros Ymchwil ar Addysg Oedolion. Mae fersiwn ar-lein arbennig ar gael i danysgrifwyr yn unig. - Journal of Adult and Continuing Education
Cylchgrawn wedi’i anelu at academyddion, ymchwilwyr, gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr fel ei gilydd, cyhoeddir y Journal of Adult and Continuing Education ddwywaith y flwyddyn a’i olygu gan yr Athro Mike Osborne o Brifysgol Stirling. - Journal of Access Policy and Practice
Cyhoeddir ddwywaith y flwyddyn, mae’r Journal of Access Policy and Practice yn dod ynghyd ag erthyglau gyda sylwadau canolwyr, adolygiadau llyfr ac adran drafodaeth hefyd. Mae fersiwn ar-lein ar gael i danysgrifwyr yn unig. - Convergence
Mae Convergence yn gylchgrawn byd-eang pwysig o addysg oedolion sy’n mynd i’r afael â materion, ymarferion a datblygiadau ym maes ehangach addysg oedolion ac addysg anffurfiol. Fe’i cyhoeddir bedair gwaith y flwyddyn gan NIACE ar ran ICAE. - Journal of Access and Credit Studies
Cyhoeddiadau Di-dâl
Mae NIACE yn cyhoeddi amrediad eang o gyhoeddiadau di-dâl. Mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho neu eu harchebu o fewn y tudalennau prosiect perthnasol yn adran Prosiectau/Ymchwil y wefan hon.
Gwybodaeth Prynu
Gwybodaeth newydd bwysig:Dim ond am archebion o £35 a throsodd y bydd NIACE yn gyrru anfoneb i sefydliadau. Os yw’ch archeb yn llai na £35, gofynnir i chi anfon siec neu dalu drwy gerdyn credyd/debyd drwy ddefnyddio’r wefan neu ffonio (+44) (0)116 2044216.
Cardiau Credyd:
Mae NIACE yn derbyn taliad drwy gerdyn credyd/debyd (gofynnir i chi nodi nad ydym yn derbyn taliad gan American Express).
Dalier Sylw: Os na ddymunwch roi manylion eich cerdyn credyd/debyd dros y Rhyngrwyd, medrwch ddodi eich archeb a rhoi eich manylion talu dros y ffôn, drwy ffacs neu drwy’r post.
Anfonebau:
Bydd NIACE yn gyrru anfoneb i sefydliadau am archebion o dros £35.00 a mwy.Rhaid i archebion o’r fath fod ar bapur pennawd swyddogol neu fod â rhif archeb swyddogol. Dylid anfon anfonebau at: Publication Sales, NIACE, 21, De Montfort Street, Leicester, LE1 7GE, UK. Dalier Sylw: Mae NIACE yn elusen ac mae’n gofyn am i anfonebau gael eu talu unwaith y’u derbynnir.
Mae NIACE yn derbyn taliad drwy siec/archeb bost. Dylai sieciau fod yn daladwy i NIACE am swm llawn yr archeb, yn cynnwys postio a phacio. I gael gwybodaeth am brynu e-bostier orders@niace.org.uk
Postio a phocio:
NID yw’r prisiau a roddir yn cyfrif postio a phacio (p&ph), ar wahân i’r cylchgronau lle mae p&ph wedi’i gynnwys yn y pris.:
- Preswylwyr DG - Ychwaneger 10% p&hp (am archebion <= £50)
- Trigolion DG - Ychwaneger 5% p&ph (am archebion > £50)
- Trigolion tramor – Ychwaneger 25% p&ph
Tramor:
Dylai cwsmeriaid tramor anfon taliad mewn sterling..



