Mae NIACE yn sefydliad an-llywodraethol. Yn gweithio dros addysg oedolion ehangach


Am NIACE Dysgu Cymru

small classNIACE (The National Institute of Adult Continuing Education - England and Wales is a non-governmental organisation working for more and different adult learners.

 

 

Beth yw NIACE Dysgu Cymru

Beth mae NIACE Dysgu Cymru yn wneud?

Beth sy’n neilltuol amdanom?

Grŵp Rheolaeth NIACE Dysgu Cymru

NIACE – Gwreiddiau a Datblygiad

Beth yw NIACE Dysgu Cymru?

Sefydlwyd NIACE Cymru yn 1985 i gynghori llywodraeth genedlaethol a lleol ar faterion yn effeithio ar addysg oedolion yng Nghymru. Yn dilyn datganoli ac ethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 1999, mabwysiadodd NIACE Cymru gylch gorchwyl diwygiedig fel NIACE Dysgu Cymru wedi ei seilio ar yr un gwerthoedd craidd NIACE.

  • Ers datganoli, mae ystod a chymhlethdod gwaith NIACE DC a’i sylfaen staffio, wedi ehangu’n sylweddol i ateb heriau polisïau yn dymuno gwneud dysgu gydol oes yn realaeth i bawb. Daeth ehangiad â fframwaith estynedig ar gyfer dialog gyda dysgwyr, ymarferwyr, gwneuthurwyr polisi a llywodraeth.
  • Cyfrannodd NIACE Dysgu Cymru at amrediad o ymgynghoriadau allweddol y Cynulliad yn cynnwys: Y Cynllun Gweithredu Addysg a Hyfforddiant, Dysgu i Bawb, Y Wlad sy’n Dysgu, Cymunedau’n Gyntaf, Cynllun Gweithredu Sgiliau a Chyflogaeth, Strategaeth Pobl Hŷn, Datblygu’r Gweithlu: Dysgu yn ac ar gyfer y Gweithle.
  • Ers 1988 mae NIACE Cymru, ac yn fwy diweddar NIACE Dysgu Cymru, wedi cymryd rhan mewn amrediad o raglenni gwaith ar gyfranogiad, yn anelu i ehangu cyfleoedd a gwella profiadau dysgu grwpiau a dangynrychiolir mewn addysg a hyfforddiant. Mae llawer o’r cynigion craidd yn deillio o waith NIACE wedi eu datgan fel dyhead, os nad eto yn ymarfer dyddiol, polisi cyhoeddus yng Nghymru.

Top

Beth mae NIACE Dysgu Cymru wneud

Mae NIACE DC yn:

  • Hyrwyddo yn neilltuol ar ran yr oedolion hynny sydd â lleiaf o sgiliau, dan fwynaf o anfantais ac sydd â’u cymhelliant, amgylchiadau economaidd a chymdeithasol yn cyflwyno rhwystrau iddynt gymryd rhan mewn dysgu.
  • Hyrwyddo addysg oedolion drwy drefnu ymgyrchoedd Wythnos Addysg Oedolion a Ymunwch Nawr i ysgogi oedolion i fod eisiau dysgu ac i gefnogi darparwyr addysg a hyfforddiant lleol.
  • Cyflwyno Fforymau Dysgu ledled Cymru i alluogi dysgwyr i gyfrannu at a datblygu polisi ac wrth ddarparu cyfleoedd dysgu yng Nghymru.
  • Trefnu gwobrau blynyddol Oedolion mewn Addysg a Thiwtoriaid Oedolion y Flwyddyn yn ogystal â gwobrau Grŵp ac Arloesedd.
  • Monitro prosesau gwneud polisi'r Cynulliad Cenedlaethol , cynhyrchu adroddiadau, ymateb i ymgynghoriadau a chynhyrchu papurau briffio i hysbysu a dylanwadu ar bolisi datblygu fel y mae’n effeithio ar addysg oedolion.
  • Gwasanaethau’r Grŵp Ollbleidiol yn y Cynulliad ar Addysg Oedolion sy’n cwrdd bob tymor yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn ymrwymo dysgwyr, ymarferwyr a gwneuthurwyr polisi mewn trafodaethau ar faterion cyfredol mewn addysg oedolion.
  • Gweithio gyda ELWa i annog datblygu prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau, corfforaethol a lleol, yn canoli ar ddysgwyr a darparu cyfleoedd dysgu perthnasol.
  • Gweithredu fel asiant newid drwy gyflwyno dynesiadau blaengar i ymrwymo oedolion mewn dysgu.
  • Cefnogi ymarferwyr trwy drefnu cynadleddau a digwyddiadau i annog rhannu syniadau ac arfer da mewn dysgu gydol oes.
  • Annog a chefnogi cydweithredu rhwng sectorau er budd oedolion yn dysgu.
  • Cyhoeddi cylchlythyr Dysgu Cymru a gylchredir deirgwaith y flwyddyn i bob aelod.
  • Cynnal gwefan NIACE Dysgu Cymru www.niacedc.org.uk fel ffynhonnell allweddol ar ddatblygiadau mewn addysg oedolion.
  • Rhoi mynediad drwy ei gysylltiadau gyda NIACE i amrediad enfawr o gyhoeddiadau diffiniol ac arbenigedd ym maes addysg oedolion.

Top

Beth sy'n neilltuol amdanom?

  • Mae NIACE Dysgu Cymru yn cynnwys tua 110 o sefydliadau yn cynnwys Awdurdodau Lleol, colegau, prifysgolion, sefydliadau cymunedol a gwirfoddol ac aelodau unigol ledled Cymru.
  • Mae NIACE Dysgu Cymru yn gorff annibynnol a gaiff ei redeg gan Grŵp Rheolaeth etholedig, yn cynrychioli pob sector yn dod ynghyd i ganolbwyntio’n benodol ar anghenion addysg oedolion
  • Caiff NIACE Dysgu Cymru ei ariannu’n rhannol gan y Cynulliad Cenedlaethol, drwy brosiectau ymchwil a datblygu a thrwy ffioedd tanysgrifiad ei aelodau.
  • Mae NIACE yn elusen gofrestredig yn seiliedig yng Nghaerlŷr ac mae Grŵp Rheolaeth NIACE Dysgu Cymru yn datblygu polisi a rheoli gweithgareddau yng Nghymru drwy ei swyddfa yng Nghaerdydd.

Top

Grŵp Rheolaeth NIACE Dysgu Cymru

 

Bryn Davies (Cadeirydd)    Pennaeth , Coleg Ystrad Mynach

Pat Davies  Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymru, Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol

Annie Williams (Is Gadeirydd) Pennaeth, Coleg Harlech

Gerry Jenson   Pennaeth Cynorthwyol, Coleg Llandrillo

Jane Williams  Cyfarwyddwr Cynorthwyol,   Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Dr Joan Smith   Pennaeth Addysg Barhaus, Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf

Jeff Greenidge   Cyfarwyddwr Gweithrediadau , Ufi/ learndirect

Yr Athro Danny Saunders  Canolfan Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Morgannwg

Viv Davies    Cyfarwyddwr, Canolfan Dysgu Cymunedol a Gydol Oes, Prifysgol Cymru Casnewydd

Sian Cartwright  Pennaeth Gwasanaethau Dysgu, TUC Cymru

Graham Price   Ysgrifennydd Cyffredinol, WEA De Cymru

Alan Watkin   Prif Swyddog, Hamdden Llyfrgelloedd a Diwylliant, CBS Wrecsam

Top

NIACE –Gwreiddiau a Datblygiad 

Mae gwreiddiau’r Sefydliad yn y Sefydliad Prydeinig Addysg Oedolion (BIAE) a sefydlwyd yn 1921, a gynhyrchodd gynlluniau a arweiniodd at sefydlu Sefydliad Ffilm Prydain, Cyngor y Celfyddydau a Biwrô Materion Cyfoes y Fyddin (ABCA). Roedd gan BIAE aelodaeth unigol, a chryfderau mewn darpariaeth prifysgol a sector gwirfoddol. Yn 1946, ffurfiodd awdurdodau addysg lleol Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Oedolion (NFAE), gydag aelodaeth sefydliadol, Yn 1949, unodd BIAE a NFAE i ffurfio Sefydliad Cenedlaethol Addysg Oedolion (NIAE), gyda chylch gorchwyl ffurfiol na fawr o newid ynddo hyd heddiw.

Nod y Sefydliad, fel a ddiffiniwyd yn ffurfiol yn ei gyfansoddiad, yw astudio a hybu addysg barhaol oedolion.

I gyflawni’r nod hon, dynodir nifer o swyddogaethau:

  • cynnull cyfarfodydd, seminarau a chyfarfodydd;
  • casglu a lledaenu gwybodaeth;
  • cynnal ymholiadau ac ymchwil;
  • cyhoeddi a dosbarthu cyhoeddiadau;
  • cynnal prosiectau arbennig a gweinyddu asiantaethau arbennig a sefydlwyd gan gyfarfod cyffredinol y Sefydliad;
  • datblygu cysylltiadau cydweithredol gyda mudiadau, sefydliadau ac unigolion yn hyrwyddo addysg barhaol oedolion mewn gwledydd eraill, a gyda sefydliadau rhyngwladol priodol;
  • cynrychioli buddiannau oedolion yn dysgu a’r cyrff sy’n eu gwasanaethu;
  • rhentu, lesu, prynu neu werthu eiddo i hwyluso ei waith neu waith asiantaethau y mae’n gyfrifol amdanynt.

Pumdegau a Chwedegau

Roedd gwaith NIAE a’i aelodaeth yn y 1950au a 1960au yn adlewyrchu meysydd eang darpariaeth addysg an-alwedigaethol, addysg oedolion, gyda ffocws sylweddol ar wasanaethau addysg oedolion AALl, darpariaeth efrydiau allanol prifysgol, Sefydliad Addysgol y Gweithwyr (WEA) a chyrff gwirfoddol eraill. Roedd llawer o’r gwaith wedi ei anelu i sicrhau sylfaen proffesiynol digonol i wasanaethau addysg oedolion, a chyhoeddodd y Sefydliad adroddiadau sylweddol ar Lety a Staffio (1963) a Digonolrwydd Darpariaeth (1970).

Saithdegau ac Wythdegau

Roedd NIACE (ychwanegwyd yr ‘C’ am ‘Continuing’ yn 1983 i sicrhau cyllid ychwanegol) yn canolbwyntio’n gynyddol ar addysg oedolion yn dysgu gyda mynediad anghyfartal i gyfleoedd addysgol, ac i’r amrediad llawn o sefydliadau ôl-ysgol. Roedd y gwaith yn cyfrannu ac wedi’i lunio gan Adroddiad Russell (A Plan for Development, DES 1973); Adroddiad Venables y Brifysgol Agored a Continuing Education: From Policies to Practice y Cyngor Ymgynghorol dros Addysg Oedolion ac Addysg Barhaol, 1982. Cafodd llawer o’i weithgaredd creadigol ei sianelu drwy unedau a gyllidwyd gan y Llywodraeth o fewn NIACE, Asiantaeth Adnoddau Llythrennedd Oedolion (ALRA) (1975-8) a’i olynwyr yr Uned Llythrennedd Oedolion (ALU) (1978-80), ac Uned Llythrennedd a Sgiliau Addysg Oedolion (ALBSU) (1981-1991) ar gyfer gwaith llythrennedd a rhifedd; REPLAN (1984-1991) a gefnogodd ddarpariaeth ar gyfer oedolion di-waith; Uned Datblygu Addysg Barhaol Oedolion (UDACE) 9184-1992 a gynhaliodd ymchwil ar astudiaethau ymchwil a datblygu mewn amrediad eang o feysydd. Sefydlwyd NIACE Cymru yn 1985 i gynghori llywodraeth genedlaethol a lleol ar faterion yn effeithio ar addysg oedolion yng Nghymru. Roedd gan waith NIACE ddimensiwn rhyngwladol cryf yn ystod y blynyddoedd hyn.

Nawdegau

Dechreuodd y ddegawd gyda chau REPLAN; trosglwyddo cyllid UDACE i’r Uned Addysg Bellach (FEU); annibyniaeth i ALBSU (a ddaeth yn ddiweddarach yn Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol) a chyhoeddi cynigion a fyddai wedi dod â chymhorthdal cyhoeddus i ben ar gyfer y rhan fwyaf o addysg oedolion heb dystysgrif. Bu gwaith adfocatiaeth NIACE mewn partneriaeth gydag aelodau, darparwyr, awdurdodau lleol ac, yn bwysig, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched yn llwyddiannus wrth newid polisi, ond creodd Deddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch raniad artiffisial rhwng darpariaeth gyda thystysgrif a heb dystysgrif a luniodd lawer o’r cynnig i oedolion yn ystod y degawd. Cyfnerthodd NIACE ei allu adfocatiaeth, yn rhannol drwy’r Grŵp Seneddol Ollbleidiol ar Addysg Oedolion, a wasanaethodd a sefydlu Wythnos Addysg Oedolion fel gŵyl flynyddol lwyddiannus; wedi cryfhau ei sylfaen ymchwil a datblygu yn fawr, ei allu darpariaeth cyhoeddi a chynhadledd, ac wedi canolbwyntio’n fwy systematig ar y rhesymau dros y bwlch dysgu, sy’n gadael grwpiau mawr o fewn y DG heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg ôl-ysgol.

Cafodd consyrn Ewrop-gyfan i gryfhau polisïau dysgu gydol oes ei adleyrchu mewn sylw cynyddol i addysg ôl-orfodol yn Lloegr a Chymru hyd ganol y 1990au. Adlewyrchwyd hyn yn adroddiad Kennedy y Cyngor Cyllido Addysg Bellach ar ehangu cyfranogiad (Learning Works, 1997) ac adroddiad Tomlinson (Inclusive Learning, 1996) ar strategaethau effeithlon i sicrhau darpariaeth briodol ar gyfer oedolion gydag anawsterau dysgu ac anableddau. Cyfrannodd NIACE at y ddau adroddiad.

Top