
Deunyddiau
Canfod Cyllid ar Gyfer Dysgu i Bobl Hŷn
Ystadegau ar ddysgu pobl hŷn
Together we can make it happen: an intergenerational approach
Mae Age Concern wedi cynhyrchu llyfryn ar fanteision defnyddio ymagwedd rhyng-genhedlaeth at ddysgu a hyrwyddo dealltwriaeth a pharch rhwng cenedlaethau. Mae’r llawlyfr hefyd yn rhoi enghreifftiau o arfer gorau ac yn ymchwilio sut y gall yr ymagweddau hyn ffitio mewn gyda blaenoriaethau presennol y llywodraeth.
‘Not ready for the scrap heap’: Edrych am waith ar ôl 50.
Adroddiad newydd gan Age Concern yn edrych ar brofiadau pobl yn edrych am waith pan fyddant dros 50 oed. Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried pam fod pobl yn y grŵp oedran hwn eisiau gweithio ac yn gwneud argymhellion i’r Llywodraeth yn seiliedig ar ymatebion y cyfranogwyr.
Older Women, Work and Health
Mae 69% o fenywod 50-59 oed a 12% o fenywod 60 oed a throsodd mewn gwaith cyflog. Mae’r adroddiad hwn gan y Rhwydwaith Oedran a Chyflogaeth (TAEN) yn ymchwilio manteision gwaith i fenywod hŷn a hefyd yn edrych ar yr anawsterau a all fod yn eu hwynebu megis incwm isel, risgiau iechyd a gwahaniaethu.
Mae 69% o fenywod 50-59 oed a 12% o fenywod 60 oed a throsodd mewn gwaith cyflog. Mae’r adroddiad hwn gan y Rhwydwaith Oedran a Chyflogaeth (TAEN) yn ymchwilio manteision gwaith i fenywod hŷn a hefyd yn edrych ar yr anawsterau a all fod yn eu hwynebu megis incwm isel, risgiau iechyd a gwahaniaethu.
Dyslecsia a Phobl Hŷn
Sut i fod yn Syrffiwr Arian
Mae Age Concern wedi diweddaru'r llawlyfr hwn i bobl hŷn sy’n newydd i’r Rhyngrwyd. Mae gan y llyfr gyfarwyddiadau darluniedig ac mae’n trafod pob agwedd o weithio gyda’r rhyngrwyd. Mae hefyd yn cynnwys cyngor ar sut i ymchwilio hanes teulu.
Dysgu Gydol Oes mewn Lleiafrifoedd Ethnig
Mae NIACE wedi cyhoeddi papur gwybodaeth ar gyfranogiad oedolion o grwpiau lleiafrif ethnig mewn dysgu. Medrir archebu copïau o wefan NIACE.
Clicier yma am wybodaeth bellach.
Y Gweithlu Hŷn
Mae papur gwybodaeth cyflwyniadol a baratowyd gan Brosiect Hŷn a Hyderus NIACE Dysgu Cymru ar gyfer gweithwyr proffesiynol cyflogaeth a hyfforddiant ar gael i’w lawrlwytho ar y rhyngrwyd. I gael gwybodaeth bellach, clicier yma.
Dysgwyr Hŷn
Diben y ddogfen hon yw crynhoi materion, gwybodaeth a thystiolaeth a rhoi deunydd i gnoi cil
Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran)
Rhaglen Barclays
Gall unrhyw glwb ar gyfer pobl hwn wneud cais am grant unigol o hyd at £150 ar gyfer offer newydd neu weithgareddau.
Learning in Later Life: a Public Spending Challenge
Mae'r Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr (CSR) yn un o adegau diffiniol y senedd hpn. Yn ogystal â dyrannu gwariant dros y tair blynedd o 2008/.09, medrai hefyd osod blaenoriaethau a chyfeiriad polisi ar gyfer y senedd ddilynol hefyd. Mae'n rhoi cyfle i greu dealltwriaeth a rennir o'r dewisiadau sy'n ein hwynebu fel cymdeithas a rôl alluogi llywodraeth wrth wneud heneiddio yn gyfle i bawb.
Key Findings
Mae Key Findings yn ddogfennau dwy-dudalen yn rhoi gwybodaeth am brosiectau ymchwil a gwaith datblygu NIACE. Nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr ac mae’r gyfres yn cynnwys gwybodaeth am brosiectau a rhaglenni a gwblhawyd yn y tair blynedd ddiwethaf, a rhai o flynyddoedd blaenorol.
Link Age in Wales
Cyhoeddwyd dogfen ymgynghorol "Link Age in Wales" gan Cynulliad Cymru a'r Gwasanaeth Pensiynnau. Mae'n gosod allan yn camau cyntaf mewn cynlluniau i ddatblygu mynediad haws i wasanaethau ar gyfer pobl hyn trwy cynnig "mynediad mewn un man".
Cyhoeddwyd dogfen ymgynghorol "Link Age in Wales" gan Cynulliad Cymru a'r Gwasanaeth Pensiynnau. Mae'n gosod allan yn camau cyntaf mewn cynlluniau i ddatblygu mynediad haws i wasanaethau ar gyfer pobl hyn trwy cynnig "mynediad mewn un man".
Mapio Canlyniadau Dysgu ar gyfer Pobl Hyn



