Your browser does not support javascript
NIACE is a non-governmental organisation working for more and different adult learners


Digwyddiadau Hyn a Hyderus

Cyrraedd y Targed


Prosiect Hŷn a Hyderus gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal ymchwil ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar oedolion hŷn pan fyddant yn cymryd y cam cyntaf hwnnw yn ôl i ddysgu.

Dan ein To! - Cynhadledd CSHS/NIACE Dysgu Cymru


5 Tachwedd, Court Colman Manor,

Pen-y-fai, Pen-y-bont ar Ogwr , CF31 4NG

 

Mae darparwyr tai gwarchod a thai â chymorth yn gwneud llawer mwy na rhoi to. Mae ganddynt gyfle unigryw i gyfoethogi bywydau eu preswylwyr mewn cynifer o ffyrdd. Mae eu cynnwys mewn dysgu a gweithgareddau eraill yn gwella lles corfforol a meddyliol, yn gostwng unigrwydd cymdeithasol ac, i rai, yn eu gwneud yn fwy cyflogadwy.

 

Mae’r gynhadledd hon yn rhoi enghreifftiau llwyddiannus a syniadau syml ac ymarferol i gynnwys preswylwyr mewn gweithgareddau newydd a’u helpu i fyw bywyd mwy crwn. Bydd Gwenda Thomas AC, Dirprwy Weinidog, yn ymuno â ni i roi’r anerchiad cyweirnod a gosod y cyd-destun ar gyfer y dydd.

Dysgu ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru


Mae NIACE Dysgu Cymru yn cynnal cyfres o dri digwyddiad tebyg ledled Cymru gyda’r nod o ddod â gweithwyr proffesiynol o bob disgyblaeth ynghyd i danlinellu gwerth defnyddio dysgu fel ymyriad i wella ansawdd bywyd ar gyfer pobl hŷn mewn amrediad o osodiadau.

Te a Sgwrs