Your browser does not support javascript
NIACE is a non-governmental organisation working for more and different adult learners


Straeon Digidol am Ddysgu yn Hwyrach mewn Bywyd.

 

 

 

 

 

 

 

 

Prosiect Adrodd Straeon NIACE Dysgu Cymru 2007-08

 

Yn 2005 galluogodd NIACE Dysgu Cymru rai dysgwyr hŷn i greu Straeon Digidol am eu profiadau dysgu. Bu’r diddordeb a ddangosodd un o’r dysgwyr mewn datblygu eu sgiliau newydd mewn technoleg gwybodaeth yn ysbrydoliaeth i ddatblygu prosiect newydd.

 

Derbyniwyd cyllid gan Cymunedau@Ei Gilydd, rhaglen cynhwysiant digidol sy’n derbyn cyllid o Ewrop am brosiect sydd i orffen ddiwedd mis Rhagfyr 2008. Bu denu pobl hŷn i adrodd eu straeon yn y fformat digidol hwn yn ffordd ardderchog o’u cyflwyno i dechnoleg ddigidol. Pan fo pobl yn gweld straeon digidol eraill a wnaed gan bobl megis hwy, mae’n eu hysbrydoli i fod eisiau gwneud yr un fath. Er y gall rhai ofni'r dechnoleg ar y dechrau, erbyn y diwedd mae ganddynt bob rheswm am ymfalchïo yn y   cynnydd terfynol a welant ar y sgrin arian neu’r sgrin deledu. Aeth mwyafrif helaeth y bobl a gymerodd ran yng ngham cyntaf y prosiect ymlaen i ddilyn rhai dosbarthiadau pellach ar ddysgu unigol yn defnyddio technoleg gwybodaeth.

 

Yn ogystal â llwyddo i gael pobl hŷn i fynd i’r afael â thechnoleg newydd mae hefyd wedi dod ynghyd â chofnodion diddorol tu hwnt o hanes lleol a straeon cymunedol, rhai straeon digri i ddod â gwên i’ch wyneb, straeon sydd â negeseuon iechyd a chodi’r llen ar wahanol ffyrdd o fyw mewn tair iaith wahanol.

 

Cafodd pob stori ei hysgrifennu, eu recordio a’i golygu gan ei hawdur sydd hefyd wedi defnyddio amrywiaeth o feddalwedd i sganio a thrin ffotograffau a delweddau arall a rhoi’r mini-ffilmiau at ei gilydd. Mae pob un tua 2-3 munud.

 

I weld y straeon a wnaed gan bobl hŷn yn 2008 gweler  

I weld y straeon a wnaed gan bobl hŷn yn 2005 gweler  

Alun Morgan


‘Roedd gwaith drosodd, ffrindiau wedi’u colli, drws wedi cau ar fy ôl ond pum drws wedi agor ...’

John Morris


‘... dim sanau, teis, gwisgoedd trendi, tafarndai, pizzas na phartïon.’

Phil Thomas


‘Fe ddechreuodd gyda digwyddiadau personol trawmatig. Yn fuan wedyn roedd streic y glowyr ...’

Beryl Williams


‘am bron dair mlynedd roeddwn wedi treulio fy holl amser yn edrych ar ôl fy ngŵr a fy mhlant ...’

Betty Dickens


'Pan oeddwn yn blentyn, fe gollais y ‘sgolarship’ oherwydd salwch a chefais i ddim ail gyfle i’w sefyll.’

Audrey Griffiths


‘Fe ddechreuodd gyda digwyddiadau personol trawmatig. Yn fuan wedyn roedd streic y glowyr ...’

Walter Harris


'criw rhyfedd o archeolegwyr dibrofiad yn cynnull yn y maes parcio.’

Mary Kift


'By the time I was fourteen, like most teenagers I had lost interest in studying.'